Letra de
Welsh Folk Song - Ar Hyd Y Nos

Holl amrantau?r sêr ddywedant
Ar hyd y nos.
Dyma?r ffordd i fro gogoniant
Ar hyd y nos.
Golau arall yw tywyllwch,
I arddangos gwir brydferthwch,
Teulu?r nefoedd mewn tawelwch
Ar hyd y nos.
O mor siriol gwena seren
Ar hyd y nos,
I oleuo'i chwaer ddaearen
Ar hyd y nos,
Nos yw henaint pan ddaw cystudd,
Ond i harddu dyn a'i hwyrddydd
Rhown ein golau gwan i'n gilydd
Ar hyd y nos.