Letra de
Geiriau

Gwrando, gwrando ar y geiriau,
o'r rhai sydd wedi anghofio,
anesmwyth yw'r cysylltiad.
Siarad, siarad gyda brwdfrydedd,
am y fraint a'r anrhydedd,
geiriau heb deimlad sy'n rhad.
A gawn dawelwch nawr
o'r brawddegau niwlog
sy'n meddwl dim i ni
ffyddlondeb ffug, emosiwn ail law.
Geiriau, geiriau yn yr anialwch,
sy'n hollol amherthnasol,
mae'r syrcas yn mynd ymlaen.
Atebion, atebion sy'n ddigon syml,
yn cael eu ateb yn fanwl,
i guddio'r twyllo a'r brad.
A gawn dawelwch nawr
o'r brawddegau niwlog
sy'n meddwl dim i ni
ffyddlondeb ffug, emosiwn ail law.