Paid dweud mo'd i'n dy adael, na ni'm dweud fe ddown yn ôl
Paid tynnu ar dy galon, ond ei mwytho yn dy gôl
Os mi ddaw 'na amser cariad, a mi ddown yn ôl yn lle
Jus' dal dy afael ar dy galon di, a'i chadw hi dan gêl
'Chos os di'r galon ddim yn curo, dim ond i chdi a fi
Os di'r geiriau bach yn brifo, er eu bod nhw i gyd yn wir
Ooo, celwydd golau ydi cariad
Mewn gair bach gwyn bob hyn a hyn, i'n cadw ni yn onest
Gwên a hen hanesion, o a'r ll'gadau sy'n dal dŵr
Ein dagrau yn ein dwylo, a dy wydrau dros y bwrdd
O mi wn dy fod'n i weld o, mi allai weld o yn dy wên
Ond dydi o ddim yna, ti'n dweud bo ni ddim digon hen
Ond paid gwrando ar y geiriau, oo be' bynnag wyt ti'n neud
'Chos dio'm ots be nei di glywed, s'nam rhaid ni wrando pan ma nhw'n dweud

Diolch Maes B.